Mae Swyddogion y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion yma i’ch helpu i gael dweud eich dweud. P'un ai eich bod yn glaf, perthynas, ffrind neu ofalwr, byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn cysylltu â'r staff perthnasol i ganfod datrysiad cyflym.  

Mae'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion yma i wrando arnoch os;
  • oes gennych broblem ond ddim yn gwybod pwy i holi
  • ydych eisiau siarad â rhywun nad yw'n rhan uniongyrchol o'ch gofal
  • ydych eisiau canmol gwasanaethau neu aelodau unigol o staff
  • oes gennych awgrymu ar sut y gallwn wella
Gallwn:
  • wrando ar eich sylwadau, awgrymiadau, canmoliaethau a'ch ymholiadau a gwneud pob ymdrech i ddatrys materion cyn gynted â phosibl
  • gynnig cyngor diduedd a chymorth i gleifion, teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr
  • cysylltu â'n staff ac, os bo'n briodol, sefydliadau eraill i'ch helpu
  • eich cyfeirio at sefydliadau priodol eraill a all ddarparu gwybodaeth neu gyngor
  • helpu i wella gwasanaethau drwy wrando ar eich adborth ac adrodd ar y themâu a’r tueddiadau a godwyd gan ein defnyddwyr gwasanaeth
  • cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol oni bai bod rheswm eithriadol - er enghraifft i amddiffyn plant, eich hun neu unigolyn arall
Datrys eich ymholiadau

Bydd Swyddogion y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion yn gwneud eu gorau i ddatrys materion a phroblemau yn gyflym ac yn uniongyrchol gyda'r staff dan sylw.   

 

Cysylltu â ni

Mae ein canolfannau Cyngor a Chyswllt i Gleifion wedi'u lleoli ym mhrif fynedfa pob un o'n prif ysbytai (Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd).  Os nad oes neb ar gael neu os yw y tu allan i oriau swyddfa, gadewch neges ar ein peiriant ateb neu anfonwch e-bost a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sy'n bosibl. Taflen y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion, PDF

E-bost: [email protected]
Ffôn: 03000 851234
Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener, gan eithrio Gwyliau'r Banc.

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â’r brechlyn COVID-19, ewch i’n tudalen Wybodaeth am Frechlynnau COVID-19 am wybodaeth leol gyfredol am y brechu a’r diweddaraf ar gymhwyster brechu neu e-bost [email protected].