Os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch dros gyfnod y Pasg, dylech gysylltu â'ch deintydd eich hun yn ystod eu horiau agor. Bydd bractisau deintyddol ar agor trwy'r dydd ar wahân i benwythnosau a gwyliau banc.

Os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch y tu allan i oriau agor eich deintydd gan gynnwys y penwythnos a Gwyliau Banc, neu os nad oes gennych ddeintydd, cysylltwch â GIG 111 Cymru i gael cyngor a threfnu apwyntiad gyda'r clinigau gwasanaeth deintyddol brys os oes angen. Byddwch yn ymwybodol bod clinigau deintyddol brys yn gweithredu system apwyntiadau yn unig. Peidiwch â mynychu ein clinigau deintyddol brys heb apwyntiad, oherwydd ni fyddwch yn gallu cael eich trin. 

GOG 111 Cymru

Mae mwy o wybodaeth am wneud apwyntiad deintyddol brys ar ein gwefan